Hoffai Cyngor Cymuned Cwm Cadnant ddiolch i dîm Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru am ddewis ein cais ac i bawb yn y Gymuned am roi o’u hamser i bleidleisio dros leoli ein prosiect Gardd Gymunedol yng nghefn Neuadd y Plwyf yn Landegfan. Rydym yn falch iawn o ddweud ein bod wedi llwyddo yn ein cais a chymerodd Comisiynydd yr Heddlu, Mr Andy Dunbobbin, yr amser i ymweld â’r safle a’r phentre ychydig dros ddeng niwrnod yn ôl a siarad gyda uwch aelodau o’r Cyngor Cymuned, aelodau o’r Clwb Crefftau Dydd Gwener a chynrychiolwyr Ysgol Gynradd Llandegfan. Hefyd yn y llun gwelir PCSO lleol Dave Webster a oedd hefyd yn cefnogi ein menter. Rydym yn gobeithio dechrau ar y gwaith yn y 6-8 wythnos nesaf a’i gwblhau cyn diwedd mis Awst. Cwm Cadnant Community Council would like to thank the NW Police Commissioner team for choosing our application and to everyone in the Community for taking the time to vote for our Community Garden project to be located at the back of the Parish Hall. We are very pleased to say that we were successful in our application and the Police Commissioner, Mr Andy Dunbobbin, took time out to visit the site and Llandegfan just over ten days ago and spoke with senior members of the Community Council, members of the Friday Crafts Club and representatives of Llandegfan Primary School. Also in the photo in local PCSO Dave Webster who also supported our venture. We hope to begin works in the next 6-8 weeks and complete before the end of August.
RHYBUDD ETHOLIAD Sir Ynys Môn ETHOLIAD CYNGHORWYR TREF / CYMUNED DROS Y CYNGOR CYMUNED ISOD YN YNYS MON | NOTICE OF ELECTION County of the Isle of Anglesey ELECTION OF TOWN / COMMUNITY COUNCILLORS FOR THE UNDERMENTIONED COUNCILS IN THE COUNTY OF THE ISLE OF ANGLESEY |
Cynhelir Etholiad Cynghorwyr Tref/Cymuned dros y Cyngor isod. CYNGOR CYMUNED CWM CADNANT (12 sedd). | An Election is to be held of Town/Community Councillors for the undermentioned Council.. CWM CADNANT COMMUNITY COUNCIL (12 seats). |
2. Gellir cael papurau enwebu o swyddfa y Swyddog Canlyniadau, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, LLANGEFNI, Ynys Môn, LL77 7TW rhwng 10 y.b. a 4 y.h. neu yn electronig drwy www.ynysmon.gov.uk | 2. Nomination papers may be obtained from the offices of the Returning Officer, Isle of Anglesey County Council, Council Offices, LLANGEFNI, Ynys Môn, LL77 7TW, between 10 a.m. and 4 p.m. or electronically via www.ynysmon.gov.uk |
3. Rhaid danfon papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, LLANGEFNI, Ynys Môn, LL77 7TW ar unrhyw ddiwrnod o’r diwrnod ar ôl cyhoeddi’r rhybudd hwn, ar ddiwrnodau’r wythnos rhwng 10 y.b. a 4 y.h. (ac eithrio gwyliau’r banc) neu’n electronig yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad cyflenwi electronig isod ond ddim hwyrach na 4 y.h. ar Ddydd Mawrth 5 Ebrill 2022. | 3. Nomination papers must be delivered to the Returning Officer at, Isle of Anglesey County Council, Council Offices, LLANGEFNI, Ynys Môn, LL77 7TW on any day from the day after this notice is published, on weekdays between 10 a.m. and 4 p.m. (excluding bank holidays) or electronically as per the arrangements set out in the electronic delivery statement below but no later than 4 p.m. on Tuesday 5 April 2022. |
4. Os bydd yr etholiad yn cael ei hymladd cynhelir y bleidlais ar Ddydd Iau, 5 Mai 2022. | 4. If the election is contested the poll will take place on Thursday, 5 May 2022. |
5. Rhaid i geisiadau, diwygiadau neu ddiddymiadau pleidleisiau post newydd a phresennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, LLANGEFNI, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn 5 y.h. ar Ddydd Mawrth 19 Ebrill 2022. | 5. Applications, amendments or cancellations of new and existing postal votes must reach the Electoral Registration Officer at Isle of Anglesey County Council, Council Offices, LLANGEFNI, Ynys Môn, LL77 7TW by 5 p.m. on Tuesday 19 April 2022. |
6. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, LLANGEFNI, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn 5 y.h. ar Ddydd Mawrth 26 Ebrill 2022. | 6. Applications to vote by proxy at this election must reach the Electoral Registration Officer at Isle of Anglesey County Council, Council Offices, LLANGEFNI, Ynys Môn, LL77 7TW by 5 p.m. on Tuesday 26 April 2022. |
7. Rhaid i geisiadau i bleidleisio trwy ddirprwy mewn argyfwng gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, LLANGEFNI, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn 5 y.h. ar Ddydd Iau 5 Mai 2022. | 7. Applications to vote by emergency proxy must reach the Electoral Registration Officer, Isle of Anglesey County Council, Council Offices, LLANGEFNI, Ynys Môn, LL77 7TW by 5 p.m. on Thursday 5 May 2022. |
8. Mae’n rhaid i geisiadau i gofrestru ar gyfer pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor Sir, LLANGEFNI, Ynys Môn, LL77 7TW erbyn hanner nos Dydd Iau 14 Ebrill 2022. Gellir gwneud ceisiadau ar y we yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio Datganiad Cyflwyniadau Electronig – Gellir cyflwyno enwebiadau yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad hwn. Gellir cyflwyno papurau enwebu drwy’r cyfeiriad enwebiadau@ynysmon.gov.ukRhaid i chi gyflwyno eich papur enwebu fel atodiad, dogfennau PDF neu Word sy’n cael eu ffafrioByddwch yn derbyn ymateb wedi’i hawtomeiddio unwaith y bydd eich enwebiad wedi cyrraedd. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn anfon hysbysiad er mwyn rhoi gwybod i ymgeiswyr o’u penderfyniad o ran a yw eu henwebiad yn ddilys. | 8. Applications to register to vote must reach the Electoral Registration Officer, Isle of Anglesey County Council, Council Offices, LLANGEFNI, Ynys Môn, LL77 7TW by midnight Thursday 14 April 2022. Applications can be made online at www.gov.uk/register-to-vote Electronic Delivery Statement – Nominations may be delivered in accordance with arrangements set out in this statement. Nomination papers can be submitted to nominations@ynysmon.gov.ukYour nomination paper must be submitted as an attachment, PDF or Word Document is preferred.You will receive an automated reply when your nomination has been delivered. The Returning Officer will send a notice to inform candidates of their decision, as to whether or not their nomination is valid. |
Menai Strait Fishery Order Progress Update, March 2022. We are pleased to confirm that a new Fishery Order for the eastern Menai Strait has been “made” by Lesley Griffiths MS (Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd) and was laid before the Senedd on 4th March 2022.
The new Order takes account of the comments that were made by stakeholders during the consultation last year. In particular, the boundary along the Anglesey coastline has been amended. This is in response to concerns about interactions with existing deep-water moorings that were raised by RYA Cymru and local sailing clubs.
In all other respects the new Order will provide the same secure long-term legal foundation as its predecessor, which is vital for local shellfish farmers. It is due to come into force on the 2nd of April and will endure for a period of 35 years. This is great news for the future of the Welsh shellfish farming, local businesses and livelihoods.
You can access a copy of the new Order on the Government legislation website here. A map showing the boundary of the new Order can be accessed here.
If you have any queries about this update, please don’t hesitate to contact me.
Kind regards
Jim Andrews
Menai Strait Fishery Order Management Association (MSFOMA)
Port Penrhyn, Bangor, LL57 4HN
www.msfoma.org
T: +44(0)845-880-2540
M: +44(0)7908-225865
Sedd Gwag / Vacant Seat – CHWEFROR / FEBRUARY 2021 – Dyddiad Cau / Closing Date – 25 Chwefror / February 2021.
Cwm-Cadnant-Notice-of-Co-Option-1.pdf
Sedd Gwag / Vacant Seat – IONAWR / JANUARY 2021 please click on the link below
Cwm-Cadnant-RHYBUDD-CYNTAF-2021.pdf
——————————————————————————————————————–
Gwaith cynnal a chadw pwysig – A5 – Pont Borth
Menai Suspension Bridge – Major Maintenance Scheme
Par: – Gwaith cynnal a chadw pwysig – A5 – Pont Borth
Fe fydd gwaith cynnal a chadw pwysig ar yr A5 – Pont Borthyn dechrau mis Ionawr 2021 a fydd yn para oddeutu 23 wythnos.
Mae angen adnewyddu rhannau o’r droedffordd ar y naill ochr i Bont Borth. Byddwn hefyd yn ail-baentio rhannau o’r bont. Byddwn yn cadw at fesurau Covid-19.
I gwblhau’r gwaith hwn yn ddiogel, bydd angen cyfyngu’r traffig sy’n croesi’r bont ar yr A5 i deithio ar un lôn rhwng 9yb—3yp. Yn ystod dyddiau’r wythnos 9yb – 3yp, bydd traffig sy’n croesi’r bont yn cael ei reoli gan signalau traffig dwyffordd. Ni fydd unrhyw waith ar y penwythnos. Mae’n debygol y bydd adegau o 20 munud o gau dros nos i chwyth-beintio rhai lleoliadau.
Bydd y droedffordd ar yr ochr fydd yn cael ei hadnewyddu yn cael ei chau yn ystod y gwaith, bydd angen i gerddwyr ddefnyddio’r droedffordd ar ochr arall y bont.
Re: – Menai Suspension Bridge – Major Maintenance Scheme
Menai Suspension Bridge Major Maintenance Scheme is scheduled for works to begin in January 2021 which will last approximately 23 weeks.
Sections of the footway on both sides of the Menai Suspension Bridge require replacement. A programme of repainting sections of the bridge will also be carried out. Covid-19 measures will be in place.
In order to carry out this work safely, traffic crossing the bridge along the A5 will need to be reduced into one lane from 9am to 3pm for the duration of the Works. On week days, between 9am – 3pm, traffic crossing the bridge will be managed by two-way traffic signals. There will be no weekend Works. There is likely to be some 20-minute closures overnight to shot blast paint in certain locations.
The footway on the side of the bridge being replaced will be closed during the works, pedestrians will need to use the footway on the other the side.
Aelodau Band Biwmares yn perfformio Carolau Nadolig tu allan i Neuadd y Plwyf neithiwr 5.12.2020 cyn goleuo y Goeden Nadolig Pentref cyntaf erioed a fynychwyd gan gyn-breswylydd y pentref a Gweinidog presennol Cynulliad Cymru dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth / Beaumaris Band Members performing Xmas Carols outside the Parish Hall last night 5.12.2020 prior to switching on the first ever Village Christmas Tree Lights that was attended by former village resident and current Welsh Assembly Minister for Anglesey, Rhun ap Iorwerth.
GOSOD DIFIBRILIWR NEWYDD YN LLANSADWRN / INSTALLING A NEW DEFIBRILLATOR IN LLANSADWRN.
Y CYNGOR YN ETHOL CADEIRYDD NEWYDD /COUNCIL ELECT NEW CHAIRMAN
Yng nghyfarfod blynyddol o’r Cyngor Cymuned Nos Fercher, 9fed Fedi 2020, etholwyd y Cynghorydd Alun Roberts (gweler llun) yn Gadeirydd newydd Cyngor Cwm Cadnant. Mae Alun, hefyd, yn UN o DRI Cynghorwyr Sirol sydd yn cynrychioli ward Seiriol yn Langefni ac dymunwn pob llwyddiant iddo yn y Gadair. Diolchodd ac fe dalodd Clerc y Cyngor a Alun Roberts deyrnged i Gynghorydd Idris Alan Jones oedd wedi bod yn y Gadair am y DAIR blynedd olaf am yr holl waith a cefnogaeth ddangosodd ar rhan y Gymuned. Etholwyd Cynghorydd Tom Cooke o Lansadwrn yn Is Gadeirydd.
At the annual meeting of the Community Council last Wednesday, 9th September 2020, Councillor Alun Roberts (pictured) was elected as the new Chair of Cwm Cadnant Council. Alun is also one of three County Councillors representing the Seiriol ward in Llangefni and we wish him every success in the Chair. The Clerk to the Council and Alun Roberts paid tribute to the outgoing Chairman, Councillor Idris Alan Jones, who had been in the Chair for the last THREE years for all his hard work and support he showed to the Community. Councillor Tom Cooke of Llansadwrn was elected Vice Chair.
——————————————————————————————————————
Cyngor Cymuned Cwm Cadnant yn dathlu diwrnod VE75 yn dawel. Cwm Cadnant Community Council celebrate VE75 in silence.
Cydnabu’r Cyngor Cymuned ddathliadau diwrnod VE75 gyda seremoni fer ger y gofeb tu allan i Neuadd y Plwyf y bore yma gyda’r Cynghorydd Sir Alun Roberts a Chadeirydd Cyngor Cymuned Cwm Cadnant, Idris Alan Jones yn gosod torchau pabi mewn coffâd. Hefyd yn cymryd rhan oedd Erin Lamb a osododd dorch ar ran y Gwarchodlu Cymreig (gweler lluniau).
The Community Council acknowledged the VE75 day celebrations with a brief ceremony at the War Memorial outside the Parish Hall this morning with County Councillor Alun Roberts and Cwm Cadnant Community Council Chairman Idris Alan Jones laying poppy wreaths in commemoration. Also taking part was Erin Lamb who laid a wreath on behalf of the Welsh Guards (see photos).
COVID 19 Community information
Menter Môn have created an information document for the kind of support that our communities have for people to access. This information is updated daily. For further information, please click on to the Cyngor Sir Ynys Mon County Council website: www.anglesey.gov.uk
CYNGHRAIR SEIRIOL ALLIANCE – (ARDAL LLANDEGFAN & LLANSADWRN AREA)
Os yn hunan-ynysu oherwydd COVID-19, gallwn ni helpu.
If you are self-isolating due to COVID-19, we can help.
Ffoniwch unrhyw un o’r rhifau canlynol rhwng 8.00yb a 6.00yh.
Phone any of the following numbers between 8.00am and 6.00pm
07933 726913 / 07933 726914 / 07933 726915
* Siopa/ * Shopping
* Casglu presgripsiynau o’r fferyllfa * Prescription collection from the pharmacy
* Postio * Posting mail
* Sgwrs ar y ffôn * A friendly phone call
* Cyflenwadau brys * Urgent supplies
* Help gyda cherdded cŵn * Help with dog walking
Ffoniwch ni a byddwn yn gallu trefnu bod gwirfoddolwr lleol yn eich helpu chi. Just call us and we will arrange for one of our local volunteers to help you
Os ydych chi’n bryderus iawn ac angen siarad â rhywun dros nos (rhwng 6.00yh ac 8.00yb) ffoniwch 07709 674805. Rydyn ni yma i helpu. If you are very worried and need to speak to someone overnight (from 6.00pm to 8.00am) please call 07709 674805. We are here to help.
——————————————————————————————————————–
Canllaw i Staff Canolfannau Cyswllt Awdurdodau Lleol
Ymateb i COVID-19
Cynhyrchwyd gan CGGC – 23 Mawrth 2020
Rhestr o gynnwys
• Gwybodaeth i unigolion sydd eisiau gwirfoddoli • Gwybodaeth am ddiogelu ar gyfer grwpiau a mudiadau sy’n recriwtio ac yn defnyddio gwirfoddolwyr • Rôl Cynghorau Gwirfoddol Sirol lleol • Dod o hyd i grwpiau cymorth
Gwybodaeth i unigolion sydd eisiau gwirfoddoli
Gwirfoddoli – Allwn i? A ddylwn i? A sut?
Iechyd yn gyntaf
Gall unrhyw un wirfoddoli ond o dan y canllawiau cyfredol ar gyfer ymateb i’r coronafeirws, ni ddylai’r bobl sydd fwyaf mewn perygl (y rhai sy’n feichiog, dros 70 oed ac sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol) ymgymryd â rolau gwirfoddoli a allai gynyddu eu risg o gael eu heintio, neu ei drosglwyddo i eraill a allai fod mewn perygl.
Os oes unrhyw un o dan 18 oed eisiau gwirfoddoli, gweler y canllawiau pellach yma: https://thirdsectorsupport.wales/volunteering/
Meddyliwch am: gall rolau lle na ddewch chi i gysylltiad â phobl eraill gael eu gwneud drwy fynediad o bell drwy defnyddio ffonau, e-bost, facetime etc. Mae’r rolau hyn yr un mor bwysig â nifer o rolau eraill er mwyn atal unigrwydd a datgysylltu.
Gall pobl ddylai fod yn hunan-ynysu oherwydd haint posibl neu mewn perygl o gael eu heintio, hefyd ymgymryd â’r rolau hyn o bell, os ydyn nhw’n ddigon da, ond rhaid iddyn nhw beidio â thorri’r broses hunan-ynysu i wirfoddoli.
Canllawiau Ymbellhau Cymdeithasol
Rhaid i bob gwirfoddolwr ddilyn y canllawiau diweddaraf ar ymbellhau cymdeithasol a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol i bawb yng Nghymru a gwarchod pobl hŷn ac oedolion sy’n agored i niwed
Mae’r sefyllfa yn newid yn gyflym, felly dylai’r rheini sy’n ymwneud â gwirfoddoli a threfnu gwirfoddolwyr fwrw golwg ar y canllawiau hyn yn ddyddiol ac i ddarllen diweddariadau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth ddiweddaraf.
Opsiynau gwirfoddoli
Gall unigolion sy’n dymuno gwirfoddoli naill ai ymgysylltu â rhwydweithiau cyd-gymorth anffurfiol a gwirfoddoli cymunedol a/neu gofrestru i wirfoddoli’n fwy ffurfiol mewn rôl gyda mudiad.
Cyd-gymorth/cylchoedd cymunedol/gwirfoddoli anffurfiol
Mae nifer o gymdogion eisoes wedi ymrwymo i helpu ac i gefnogi ei gilydd mewn ardal fach iawn. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn golygu bod y bobl dan sylw eisoes yn adnabod ei gilydd, i raddau. Ni ddylid rhoi neb dan bwysau i gymryd rhan. Mae cardiau post neu daflenni sydd wedi’u rhoi drwy flychau llythyrau wedi’u defnyddio i ailgyflwyno cymdogion ac i awgrymu sut gallent helpu a chefnogi ei gilydd: o gadw mewn cysylltiad drwy alwadau ffôn, i adael siopa ar y stepen drws, wrth barchu pellter cymdeithasol. Gellir dod o hyd i fanylion ar ddolenni cyfryngau cymdeithasol fel WhatsApp a grwpiau lleol ar Facebook, etc.
Ymuno â mudiad gwirfoddol sy’n bodoli’n barod
Drwy eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol neu Gwirfoddoli Cymru, gallwch gofrestru i wneud rôl wirfoddoli benodol gyda mudiad lleol.
Dylai gwirfoddolwyr ddisgwyl orfod cadw at god ymddygiad sy’n ofynnol gan y mudiad.
Gellir gofyn i bob gwirfoddolwr ynglŷn â’u heuogfarnau heb eu disbyddu (y rhai nad yw’r cyfnod adsefydlu wedi dod i ben eto (gweler y wybodaeth yma: Datgloi)) ond dim ond fel mater o arfer da. Mae hyn yr un peth â gwiriad DBS sylfaenol ond gallai fod yn fater o lenwi ffurflen ar-lein syml.
Efallai y bydd angen gwiriadau DBS uwch ar gyfer rhai rolau gwirfoddol eraill ond gan fod y rhain ar gyfer rolau sydd â chysylltiad â’r bobl sydd fwyaf mewn perygl o ran materion diogelu confensiynol, bydd llai o gyfleoedd o’r fath. Dylai rolau sydd angen gwiriadau DBS uwch gael eu nodi’n glir ar y wybodaeth.
Gwybodaeth diogelu i grwpiau a mudiadau sy’n recriwtio ac yn defnyddio gwirfoddolwyr
Mae’n rhaid i ymatebion cymunedol i COVID-19 roi systemau a phrosesau ar waith i warchod buddiolwyr a gwirfoddolwyr rhag camdriniaeth a niwed.
Dyma’r 10 awgrym gorau i’ch rhoi ar ben ffordd
Gweler ein canllawiau manwl ar y wefan am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r holl bwyntiau hyn:
1. Dylai arweinwyr grŵp roi eu manylion cyswllt i’r buddiolwyr (y bobl y byddwch chi’n eu helpu) a disgrifiad o’r gwasanaethau maen nhw’n bwriadu eu cynnig.
2. Dylai arweinwyr grŵp greu rôl-ddisgrifiadau ar gyfer gwirfoddolwyr sy’n nodi unrhyw angen am wiriadau DBS (neu e-bostiwch safeguarding@wcva.cymru gyda rôlddisgrifiad). Sylwer: Gellir gofyn i bob gwirfoddolwr ynglŷn â’u heuogfarnau heb eu disbyddu (y rhai nad yw’r cyfnod adsefydlu wedi dod i ben eto (gweler y wybodaeth yma: Datgloi)) ond dim ond fel mater o arfer da. Mae hyn yr un peth â gwiriad DBS sylfaenol ond gallai fod yn fater o lenwi ffurflen ar-lein syml.
3. Rhaid i arweinwyr grŵp ymgyfarwyddo â’r mathau o weithgaredd a ddiffinnir fel ‘gweithgaredd rheoledig’ ac y byddai angen gwiriad DBS uwch gyda rhestri gwahardd yn ôl y gyfraith.
4. Dylai’r gwasanaeth greu system glir i fuddiolwyr dynnu sylw gwirfoddolwyr at eu hangen am help: dylid hysbysu gwirfoddolwyr beth i’w wneud nesaf – fel arfer i ffonio’r gwasanaethau brys.
5. Dylai arweinwyr grŵp sicrhau bod gan wirfoddolwyr fynediad at gydlynydd ag enw sy’n hawdd cysylltu ag ef/hi.
6. Rhaid i wirfoddolwyr wybod y dylent gysylltu â’r Cydlynydd os oes ganddynt unrhyw bryderon diogelu a dylai’r Cydlynydd gael rhestr o gysylltiadau i wneud atgyfeiriadau, e.e. yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol.
7. Dylai gwirfoddolwyr ddilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â COVID-19 a dylid parchu mesurau diogelwch hefyd.
8. Rhaid rheoli trafodion ariannol yn ofalus a dylid osgoi cyfnewid arian parod ar bob cyfrif.
9. Dylai gwirfoddolwyr ddefnyddio ffordd glir o adnabod eu hunain wrth gyfathrebu â buddiolwyr.
10. Lle bo’n bosib, defnyddiwch y gweithlu gwirfoddol presennol, e.e. gyrwyr cymunedol a chyfeillachwyr.
Rôl Cynghorau Gwirfoddol Sirol lleol
Beth mae Cyngor Gwirfoddol Sirol yn ei wneud? Mae Cyngor Gwirfoddol Sirol ym mhob sir sy’n cefnogi mudiadau gwirfoddol, yn hyrwyddo gwirfoddoli ac yn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd.
Gall Cynghorau Gwirfoddol Sirol helpu mudiadau i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr a gall hefyd helpu unigolion i nodi cyfleoedd addas.
Mae Cynghorau Gwirfoddol Sirol yn helpu’r rheini sy’n edrych i wirfoddoli drwy ddarparu cymorth a gwybodaeth uniongyrchol, (naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn neu ebost) a thrwy reoli’r gronfa ddata genedlaethol o gyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer eu hardal www.volunteering-wales.net.
Gwefan Gwirfoddoli Cymru
Gellir chwilio drwy wefan www.volunteering-wales.net i ddod o hyd i gyfleoedd fesul lleoliad, categori neu air allweddol. Gall unrhyw un chwilio, ond bydd angen i chi gofrestru fel gwirfoddolwr ar y wefan er mwyn mynegi diddordeb mewn cyfle neu i gael manylion cyswllt.
Os ydych chi’n defnyddio’r ddolen isod, yna sgroliwch i lawr, fe welwch chi gyfleoedd sy’n gysylltiedig â COVID 19, a allai fod yn ddefnyddiol.
https://volunteeringwales.net/vk/volunteers/search.htm?searchString=&categories =3042
Mae Cynghorau Gwirfoddol Sirol hefyd yn cynnig cyngor a chefnogaeth i fudiadau a grwpiau, gan gynnwys cyngor ar lywodraethiant, cyllido, diogelu a materion cyfreithiol a’r hyn mae gwirfoddolwyr yn ei wneud.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol fan hyn.
Dod o hyd i grwpiau cymorth lleol
Gallwch ddod o hyd i wasanaethau gwirfoddol ar flaenau eich bysedd! Dewch o hyd i amrywiaeth eang o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol gwych sy’n gallu cynnig gwybodaeth a chefnogaeth er mwyn i bobl allu gwneud dewis gwybodus. https://en.infoengine.cymru/
https://www.dewis.wales/
Dyma rai mudiadau allweddol a allai helpu. Cofiwch fod nifer o staff bellach yn gweithio o bell. Gall llinellau ffôn fod yn brysur oherwydd galw mawr. Efallai y byddai’n well anfon ebost yn y lle cyntaf.
Age Connects Cymru
https://www.ageco nnectswales.org.uk/
02920 683600 enquiries@ageconnectswales.org.uk
Yn darparu cefnogaeth i bobl 50+ oed ac mae’n cynnwys 6 mudiad Age Connects annibynnol. Edrychwch am wasanaethau lleol drwy ddilyn y ddolen https://www.ageconnectswales.org.uk/contact neu ffoniwch y prif rhif cyswllt
Age Cymru
https://www.ageuk. org.uk/cymru/ 08000 223 444 (llinell gyngor ar agor Llun-Gwe 9am – 5pm) advice@agecymru.org.uk
Gwybodaeth am fudd-daliadau, iechyd, arian, tai neu ofal i bobl hŷn, eu teulu, ffrindiau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Edrychwch ar y wefan am weithgareddau lleol neu drwy eu cyfeiriad e-bost a chofiwch gynnwys y lleoliad.
Cymdeithas Alzheimer’s
https://www.alzh eimers.org.uk/abo ut-us/wales 0300 222 122 (llinell gyngor genedlaethol 9am – 5pm ar gyfer swyddfeydd lleol) Ffoniwch y llinell gyngor genedlaethol Yn darparu amrywiaeth o wybodaeth a chyngor
Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan
http://www.allwal esforum.org.uk/
029 2081 1120 (9 am – 4pm Llun – Iau)
Ffurflen gysylltu drwy e-bost ar eu gwefan
Yn cefnogi rhieni a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu ledled Cymru gyda gwybodaeth a chyfeirio CALL http://www.callhel pline.org.uk/ 0800 132 737 (rhadffôn 24/7) Testun 81066 Prif gyswllt drwy’r llinell gymorth Mae’r llinell gymorth yn rhoi cymorth emosiynol a gwybodaeth am faterion iechyd meddwl yng Nghymru
Gofal a Thrwsio Cymru
http://www.carean drepair.org.uk
02920 107580 (ffoniwch y rhif hwn i gael gwybod am wasanaethau Gofal a Thrwsio lleol
https://www.careandrepair.org.uk/en/a bout-us/contact-us/ i e-bostio ymholiad
Mae’r llinell gymorth yn rhoi cymorth emosiynol a gwybodaeth am faterion iechyd meddwl yng Nghymru
Ymddiriedolaeth y Gofalwyr
https://carer s.org/country /carers-trustwales-cymru
0300 772 9702 wales@carers.org
Cefnogaeth a gwasanaethau i ofalwyr di-dâl. Mae ganddynt sawl prosiect gan gynnwys un sy’n canolbwyntio ar ofalwyr ifanc
Gofalwyr Cymru
https://www.carers uk.org/wales
02920 811370 Info@carerswales.org
Yn darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth arbenigol i ofalwyr di-dâl, yn cysylltu gofalwyr am gydgefnogaeth
Cyngor ar Bopeth
https://www.citizensadvice.org.uk
03444 772020 (Llinell Gymorth) – Ffoniwch y Llinell Gymorth
Yn darparu gwybodaeth am fudd-daliadau, gwaith, arian a debyd, materion defnyddwyr, tai, deddfau a phrosesau’r llys, mewnfudo a materion iechyd.
Plant yng Nghymru
https://www.childr eninwales.org.uk/
02920 342434
Defnyddiwch eu tudalen gyswllt i gyflwyno ymholiad e-bost https://www.childreninwales.org.uk/co ntact/
Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél ar gyfer mudiadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, a fydd yn gallu cyfeirio at fudiadau perthnasol sy’n gallu helpu
Cartrefi Cymunedol Cymru
https://chcymru.org .uk/ 0290 674810 enquiries@chccymru.org.uk
Yn cynrychioli dros 70 o gymdeithasau tai dielw ac yn cynnig gwybodaeth am faterion tai yng Nghymru
Anabledd Cymru
http://www.disabili tywales.org/ 02920 887325 info@disabilitywales.org
Gwybodaeth a chyngor am hawliau anabledd
Hafal
https://www.hafal. org/ 01792 816600/832400 hafal@hafal.org
Yn cefnogi pobl â salwch meddwl difrifol a’u gofalwyr drwy raglenni adfer a hunanreolaeth
Dolen ddefnyddiol i gyngor am Iechyd Meddwl ac Arian https://www.mentalhealthandmoneyadvice.org/wal/
Anabledd Dysgu Cymru
https://www.ldw.or g.uk/ 02920 752149 enquiries@ldw.org.uk
Yn darparu gwybodaeth am yr holl faterion sy’n ymwneud ag anabledd dysgu mewn fformatau hygyrch
Marie Curie
https://www.marie curie.org.uk/who/w hat-we-do/en 01495 740818
Ffoniwch y rhif ffôn am fwy o wybodaeth Yn cefnogi pobl â salwch angheuol gan ddarparu gofal nyrsio.
Mind Cymru
https://www.mind. org.uk/aboutus/mind-cymru/ 02920 395123 (Llun-Gwe 9am-6pm) info@mind.org.uk
Yn darparu gwybodaeth, cymorth a chyngor i bobl â phroblemau iechyd meddwl a’u teuluoedd/gofalwyr Cymorth ar-lein: https://www.mind.org.uk/information-support/
Y Groes Goch Brydeinig
https://www.redcro ss.org.uk/campaign s/volunteer-inwales 02920 695740
cardiff@redcross.org.uk
Mae’r gwasanaethau yng Nghymru yn cynnwys cymorth ar ôl dod adref o’r ysbyty, cadeiriau olwyn, llogi comôd a help gyda materion ariannol.
Y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol (RVS)
https://www.royalv oluntaryservice.org. uk/
0330 5550310 (Llun – Gwe: 8am5pm)
Ffoniwch y llinell gymorth
Mae’r gwasanaethau yng Nghymru yn cynnwys cymorth ar ôl dod adref o’r ysbyty, cadeiriau olwyn, llogi comôd a help gyda materion ariannol.
St John’s Cymru
https://stjohnwales. org.uk/
02920 449631 pts@stjohnswales.org.uk
Mae St John’s Cymru yn darparu gwasanaethau cludiant mewn ysbytai ledled Cymru.
Shelter Cymru
https://sheltercymr u.org.uk/
0333 2700182 (Llun-Gwe 9.30am – 4pm) Cyngor arbenigol ar ddyled 0333 2700182 (Llun-Gwe 9.30am – 4pm)
Ffoniwch y llinellau cymorth
Yn darparu gwybodaeth a chyngor ar faterion tai a dyled i’r rheini sy’n cael eu hunain yn ddigartref neu sydd eisoes heb lety.
——————————————————————————————————————-
Anglesey commits extra funding for Anglesey Food Banks
Posted on 18 March 2020
Today, Anglesey County Council has confirmed to commit £30,000 to help support Anglesey’s Food Banks.
During this critical time Food Banks will play an essential role in helping those who are in need and will be a lifeline to many families in the coming weeks.
Anglesey County Council’s Leader, Cllr Llinos Medi said, “Nobody in our community should have to face going hungry and that is why we are committing this money, to allow the food banks to carry on with the amazing work they do.”
Demand has already increased for both the Amlwch and Holyhead food banks in the past week and demand is likely to grow as we progress through the Coronavirus situation; having announced that the over 70s and those with chronic health conditions have been advised to self-isolate for long periods and now with schools being closed.
The authority has committed to support those wanting to help in partnership with Menter Môn and Medrwn Môn, and we have already seen the generosity of some individuals and community groups.
Llinos added, “I’m proud to see how the community of Anglesey has come together. In the past few days alone Holyhead Town Hall have donated all their food stocks to the food banks and local charity, Cefnogi Elusen have also kindly donated £1,000 to allow the food banks purchase hygiene products. Not forgetting all the support from local businesses and the generosity of Anglesey Council’s staff, donating time, money and food.”
“The council is now working with a local supplier to buy stocks of food which will cover the island’s population. However these funds won’t last very long and that’s why I’m also urging the public to donate what they can. Menter Môn have established a Go Fund Me Page to support the food banks and have set an ambitious target of £20,000 which will go towards supporting those in need.”
“Please take care of one another.”
For further information on the Go Fund Me page. For information on Anglesey’s Food Banks follow this link: https://anglesey.foodbank.org.uk/
Anglesey committed to support volunteers who help the island’s vulnerable
Posted on 17 March 2020
The Isle of Anglesey County Council, Medrwn Môn and Menter Môn are committed to working in partnership to support the island’s most vulnerable during to Coronavirus outbreak.
Senior officers from each organisation met yesterday (Monday, March 16) and agreed to take collaborative action that will provide support and guidance to volunteer groups that want to help those in need and who will have to self-isolate.
Anglesey County Council’s Chief Executive, Mrs Annwen Morgan said, “This is a critical time for everyone and it is important that people and communities look after each other. With the over 70s and those with chronic health conditions being advised to self-isolate for long periods, we have taken special measures with our partners to take action that will help those in need.”
“There have already been two confirmed cases on the island and we are fully aware that residents are concerned. As an authority, we are doing all we can to ensure that services are maintained during this period. However, we are likely to face significant additional pressures over the next few months and we will also be seeking the support of our Town and Community Councils as well as communities during this time.”
The County Council, in partnership with Medrwn Môn and Menter Môn, will work together with local communities and volunteers to ensure the most vulnerable are supported, identify what community support is already available and map the potential demand the Island faces.
The aim of this will be to create a guidance document for any individual/volunteer, community group or Town and Community Council that would like to provide assistance during this period. Offering guidance to those wanting to help, setting out realistic targets and outlining precautionary measures that will safeguard everyone involved.
The county council is following Public Health Wales’ advice and guidelines and is taking regular action in response to the daily changes. The UK has now moved into the ‘delay’ phase to try and manage the spread of the virus, encouraging people to wash their hands more often, and for anyone who has a high temperature or a new continuous cough to stay at home for 14 days.
Menter Môn’s Managing Director, Dafydd Gruffydd said, “During times like this it is important that Menter Môn reacts to the emergency that the island faces. We have staff, skills and resources and will be working together with others to ensure these are put into action for the benefit of our communities.”
Annwen added, “We are strongly advising everyone to take extra care. Our aim now is to ensure that support is there for the most vulnerable on the island. Community resilience is vital and everyone has a role to play to protect each other. Our goal is to ensure that we provide the right tools for our communities that will enable them to help those in need.”
“We aim to have the community support plan in place as soon as possible in order to allow communities to provide consistent support throughout the island. This is a challenging period for us all and I’d like to thank those community groups such as the ones in Amlwch, Cemaes, Menai Bridge, Holyhead and Llanfairpwll who have already established in order to help the community.”
“There are many more that can help in various different ways and I would urge you to get in touch with Môn Community Link, who will signpost you to the appropriate contact within your community.”
If you or a community group or Town and Community Council would like further information please get in touch on 01248 725745, 01248 724944 or 01248 725700 or email linc@medrwnmon.org.
END: 17.03.2020
NEUADD Y PLWYF
LLANDEGFAN
PARISH HALL
Er lles iechyd a diogelwch i drigolion Llandegfan a Llansadwrn ac yn sgil y cynnydd yn nifer yr achosion o coronafeirws, mae penderfyniad wedi’i wneud i gau Neuadd y Plwyf yn Llandegfan hyd nes y ceir rhybudd pellach.
——————————————————————-
In the best interests of health and safety for the residents of Llandegfan and Llansadwrn and due to the escalation of the coronavirus outbreak, a decision has been made to close the Parish Hall in Llandegfan until further notice.
Alun Foulkes
Ar rhan Ymddiriedolwyr y Neuadd / On behalf of the Hall Trustees. 16.3.2020.
Ras Yr Ynys 2020 / Anglesey Half Marathon 2020
Annwyl Aelodau Lleol, Cynghorau Tref a Chynghorwyr Cymuned / Dear Local Members, Town Council’s and Community Councillors. (Scroll down for English)
Oherwydd tywydd garw, efallai bydd lwybr Ras Yr Ynys 2020 yn gorfod newid. Mae’r rhagolygon ar hyn o bryd yn rhagweld cyflymder gwynt a allai arwain at gyfyngiadau ar gerbydau ar Bont Britannia. Os bydd cyfyngiadau o’r fath yn cael eu actifadu, ni chaniateir i Ras Yr Ynys 2020 ddefnyddio Bont Y Borth. Mae trefnwyr y digwyddiad, “Always Aim High”, mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ac asiantaethau Llywodraeth Cymru ac yn monitro’r rhagolygon tywydd yn ofalus. Bydd penderfyniad ar lwybr y ras yn cael ei wneud ar, neu cyn, noswyl yfory. Os yw’r tywydd yn ffafriol, fe fydd Pont Y Borth yn cael ei defnyddio a bydd y digwyddiad yn dilyn y lwybr arferol, traddodiadol.
Os nad yw’r tywydd yn ffafriol, bydd newidiadau i’r llwybr yn nhref Porthaethwy. Ni fydd unrhyw newid ar weddill y llwybr drwy Cadnant, Biwmares a Llanfaes. Bydd y newidiadau i’r llwybr Ras Yr Ynys 2020 fel a ganlyn yn nhref Porthaethwy. Bydd y ras yn dechrau ar y stryd fawr ym Mhorthaethwy ger cyffordd Stryd Askew. Bydd y cystadleuwyr yn mynd i fyny’r A545 i Gylchfan “Anglesey Arms”, troi i’r chwith i ffordd Cambria. Yna, byddant yn mynd ymlaen i’r gyffordd gyda “Beach Road”, yn troi i’r chwith ac yn rhedeg ar hyd “Beach Road” at y “Liverpool Arms”. Wedyn troi i’r dde ac yn rhedeg ar hyd “St George’s Road” i gyffordd yr A545 a throi i’r dde. Wedyn ymlaen ar hyd yr A545 a dilyn llwybr hanner marathon traddodiadol i Lanfaes ac yn ôl i’r man gorffen ym maes parcio’r Waen Porthaethwy.
Mae “Always Aim High” yn bwriadu:
Cysylltu gydag, a hysbysu’r preswylwyr a’r busnesau a allai gael eu heffeithio gan y newid i’r llwybr.
Rhoi marsialiaid a stiwardiaid ym mhob Cyffordd ar hyd y llwybr.
Rheoli trafnidiaeth gyhoeddus a allai gael ei effeithio a sicrhau bod y bysiau yn cyrraedd Ffordd y Ffair.
Cysylltu gyda’r addoldai sydd wedi’u lleoli o fewn y llwybr.
Asesu risg y llwybr.
Hysbysu pob cystadleuydd o’r newid llwybr.
Ystyried opsiynau parcio i alluogi cystadleuwyr i fod yn bresennol yn y man cychwyn newydd
Sicrhau bod yr A545 yn cael ei ailagor ar amser.
Gweler y cynllun isod sy’n dangos y llwybr amgen.
Due to severe weather. The Anglesey Half Marathon 2020 may be subject to a route change. Current weather forecasts predict wind speeds which may result in vehicle restrictions on the Britannia Bridge. If such restrictions are activated on the Britannia Bridge, the Anglesey Half Marathon will not be permitted to take place on the Menai Suspension Bridge. The event organisers, Always Aim High are in discussions with Welsh Government and Welsh Government Agencies and closely monitoring the weather forecast. A decision on the route will be made on or before tomorrow eve.
If the weather is favourable. The Menai Suspension Bridge will be used and the event will follow its normal, traditional route.
If the weather is not favourable. There will be changes to the route in Menai Bridge Town. The remainder of the route through Cadnant, Beaumaris and Llanfaes will be unaffected.
The changes to the route will be as follows in Menai Bridge Town. The race will start on the High Street and Junction of Askew Street in Menai Bridge. The competitors will proceed up the A545 to the Anglesey Arms Roundabout, run a very short distance on the roundabout and turn left onto Cambria Road. They will then proceed to the junction with Beach road, turn left and run along Beach Road to the Liverpool Arms and turn right onto St George’s Road. Proceed along St George Road to the junction with the A545 and turn right. Proceed along the A545 and follow the traditional half marathon route to Llanfaes and back to the finish point in Waen Car Park Menai Bridge.
Always Aim High intend to:
- Liaise and inform the residents and businesses that may be affected by the route change.
- Place marshals and stewards at each junction along the route.
- Manage public transport that may be affected and ensure that the buses reach the Wood Street Car Park.
- Liaise with the Places of Worship that are located within on the route.
- Risk Assess the route.
- Inform all competitors of the route change.
- Consider parking options to enable competitors to attend at the new start point
- Ensure that the A545 is reopened on time.
Noson Agored Cwlwm Seiriol Open Evening – 13/11/2019.
Cynhaliwyd Noson Agored yn Neuadd Llandegfan ar y 13eg Dachwedd er mwyn ceisio darganfod syniadau cymdogion y pentref ar gyfer gwella llwybrau a safle Gwarchodfa Natur Cyttir. Trefnwyd y noson gan Menter Mon (Cwlwm Seiriol) ac fe cafwyd cyflwyniad diddorol gan Mr Seimon Hunt (Coed Cymru) ac yna sesiwn agored i’r sawl a oedd yn bresennol. Diolchwyd i pawb gan Cadeirydd y Cyngor Cymuned, Mr idris Alan Jones.
An open evening was held at the Llandegfan Parish Hall on 13th November to try and discover ideas provided by the villagers for improving the footpath trails and the site of the Cyttir Nature reserve. The evening was organised by Menter Mon (Cwlwm Seiriol) and an interesting presentation was given by Mr Seimon Hunt (Coed Cymru) followed by an open session for all the attendees. The Chair of the Community Council, Mr Idris Alan Jones, thanked everyone for their attendance and interest.
Syniadau / Suggestions.
Group 1:
Llwybrau/Footpaths | Digwyddiadau/Events |
Hysbysfwrdd x 3 – 1. canol y pentre, 2. hen bentref 3. Cyttir Mawr |
Man parcio yn Cyttir Mawr
Addasrwydd i gadair olwyn a prams – giatiau
Arwyddion llwybr penodol – enw i’r llwybr ‘Cylch Cyttir’
Defnyddio lliwiau – taith fer / taith hir
Taflen wybodaeth
Cuddfan i wylio adar
Mynediad mwy cyfeillgar a mwy agored a chroesawgar
Taith adnabod adar / planhigion / coed etc.
Taith ystlumod
Helfa wyau Pasg
Gwneud blychau adar / bug hotel
Taith gerdded efo cwis amgylcheddol i’r teulu i gyd
Taith gerdded tynnu lluniau ar gamera / ffon
Arddangosfa o’r lluniau yn y Neuadd
Group 2:
Llwybrau / Footpaths | Digwyddiadau / Events |
Footpath 17/008 1 3
Boggy – Summer only please keep. Info signs on Common include history and why common land Rationalise boardwalks on Cyttir Mawr Info board at Parish Hall Mobile phone signal poor be careful about technology Horses! Hedgehog signs, frog/toad Problem with willow/birch falling on road and telephone line – Cyttir Lane. Problem with deliveries. Archaeology on footpath route Replace styles with gates Road through common dangerous – speeding and buses Taith Tegfan Llwybrau Tegfan Footpaths Name it after a flower or something you see |
Looking for species – rarities, moth trapping
Relaunch of volunteer/habitat work · Show what it has to offer · Say what will be happening Email website link to Alun Foulkes to put on Llandegfan website · Maggie’s web page? Unofficial but might be useful to spread message |
Group 3:
Llwybrau/Footpaths | Digwyddiadau/Events |
Colour coded pathsBetter signage
Map (leaflet) with routes on Board with map at Parish Hall Want the path from old Llandegfan past Tegfan Terrace upgraded (best circular path). |
Nigel Brown – Plant ID walk (done in past)Julian Thompson (Pensychnant)
Fungal foray – Trampling issues Seating area at the reserve – No, keep it as natural as possible Divert coastal path via nature reserve – No |
Cynllun Lliniaru Llifogydd Llansadwrn Flood Alleviation Scheme.
Mae gwaith lliniaru llifogydd ym mhentre Llansadwrn bellach wedi cychwyn ac fe welir Cynghorydd Sirol Carwyn Jones yn y llun gyda’r Contractwyr ac aelodau Adran Eiddo Cyngor Sir Ynys Mon yn cadw golwg barcud ar y sefyllfa yn y Cae Chwarae. Y gobaith cawn weld y bydd cwblhau erbyn y Gwanwyn ac fod yr offer wedi eil ail-leoli.
Flood alleviation works in Llansadwrn have now commenced and County Councillor Carwyn Jones is seen pictured with the Contractors and members of Ynys Mon County Council Property Section keeping a close watch on the situation at the playing field. We hope to see that it will be completed by the spring and that the equipment will be repositioned
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2019/11/Sul-y-Cofio-2019.pdf”]
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2019/02/Llandegfan-defibrillator-Poster33801.pdf”]
MODERNEIDDIO YSGOLION MON – YMGYNGHORIAD ANSTATUDOL ARDAL SEIRIOL / MODERNISING SCHOOLS – INFORMAL CONSULTATION SEIRIOL AREA.
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2018/07/Rhybudd-Cyfethol-Notice-of-Co-Option-Cwm-Cadnant.pdf”]
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/School-Modernisation-Seiriol-Area.pdf”]
TAI GOFAL YCHWANEGOL ARDAL SEIRIOL / EXTRA CARE HOUSING FOR THE SEIRIOL AREA
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/Tai-Gofal-Ychwanegol-Seiriol.pdf”]
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/Extra-Care-Seiriol.pdf”]
YMGYNGHORIAD DYSGU GYDOL OES / LIFELONG LEARNING CONSULTATION (gweler dogfennau isod/ see below documents).
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/Lifelong-Learnig-Consultation-Seiriol-Ward-June-2017.pdf”]
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/Ffurflen-adborth-Dwyieithog-Seiriol-2017.pdf”]
YMGYNGHORIAD LLYFRGELLOEDD YR YNYS / ANGLESEY DRAFT LIBRARY SERVICE STRATEGY CONSULATION (gweler dogfennau isod / see below documents)
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/A4-library-information-booklet.pdf”]
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/Holiadur-Llyfrgelloedd-English.pdf”]
Diwedd cyfnod – dymchwel Hen Ysgol Llandegfan – Mai 2017.
End of an era – demolishing the Old School in Llandegfan – May 2017
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/BICYCLE-FUN-RIDE-Poster-2017-Eng.pdf”]
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/BICYCLE-FUN-RIDE-Sponsorship-Form-English.pdf”]
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/cprw-hustings-notice.pdf”]
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/NOTICE-OF-CO-OPTION-Cwm-Cadnant-Community-Council.pdf”]
New Community Council Chairman Idris Alan Jones thanking the outgoing Chair, Mrs Sian Arwel Davies, for over 20 years service to the Community Council with a memento. Mrs Davies recently made the decision to retire and not to seek re-election. Diolch yn fawr iawn Sian.
Llongyfarchiadau Cynghorwyr Sirol Lewis Davies, Carwyn Jones ac aelod newydd Alun Roberts (dde) ar ol iddynt sicrhau pleidlais etholwyr ward Seiriol yn Langefni ddoe.
Congratulations to County Councillors Lewis Davies, Carwyn Jones and new member Alun Roberts (right) following their Seiriol Ward election success at Llangefni yesterday.
Cwm Cadnant Community Council Chairman Sian Arwel Davies with PCSO Teleri Jones outside the Parish Hall with photographic plates to be placed around the village of Llandegfan to bring awareness to residents of the problems recent dog fouling complaints is causing. The plates were designed by pupils of the local Llandegfan primary school.
New playfield equipment recently installed at Llansadwrn Playing Fields
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/National-Grid-Newyddion-y-Prosiect-Mehefin-2016.pdf”] [gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/National-Grid-Project-News-June-2016.pdf”]
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/Diogelwch-Cymunedol-Community-Safety..pdf”]
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/Blaenrhaglen-Pwyllgor-Gwaith-20-06-16..pdf”] [gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/Exec-Forward-Planning-20-06-16..pdf”]
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/Consultation-on-temporary-Stopping-Places-for-Gypsies-and-Travellers.pdf”]
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/Llythyr-Safleoedd-sipsiwn-02.06.16..pdf”]
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/Gypsies.pdf”]
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/B5109.pdf”]
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/Local-Dev-Plan-Remove-Special-Landscape-Areas-Status.pdf”]
[gview file=”https://www.cwmcadnant.com/wp-content/uploads/2014/03/Cwm-Cadnant-Gypsy-Travellers-Site-Response.pdf”]]
Menai Strait Fishery Order Progress Update, March 2022MSFOMA <chair@msfoma.org>To: alun1965@btinternet.com;10/03/2022 17:501 Show image